Medal efydd i Becky James ac arian i Owain Doull
- Cyhoeddwyd

Mae'r feicwraig Becky James wedi ennill medal efydd yn y ras Keirin ym Mhencampwriaeth Seiclo Trac y Byd yn Llundain.
Yn 2013 mi enillodd hi ddwy fedal aur ym Mhencampwriaeth Seiclo Trac y Byd ym Melarws.
Ond ers hynny mae'r ferch o'r Fenni wedi dioddef gyda anaf i'w phen-glin.
Medalau arian gafodd Owain Doull o Gaerdydd a gweddill tîm Prydain yn y ras gwrso, gyda Syr Bradley Wiggins yn rhan o'r tîm.
Awstralia aeth a'r aur.