Dyn wedi cicio ei wraig 'fel pêl-droediwr yn cicio pêl'
- Cyhoeddwyd

Cafodd Fiona Parry 'anafiadau dychrynllyd' yn y digwyddiad
Mae llys wedi clywed bod dyn wedi cicio ei wraig "fel pêl-droediwr yn cicio pêl" wrth ymosod arni yn y stryd.
Mae Sylvan Parry, 46 o Gaernarfon, yn gwadu ceisio llofruddio Fiona Parry wrth iddi fynd a'u plant i'r ysgol ar 3 Medi y llynedd.
Dywedodd Alun Rowlands, un o dri diffoddwr tân wnaeth ymyrryd ar ôl gweld y digwyddiad, bod gan Mrs Parry "anafiadau dychrynllyd".
Dywedodd wrth Lys y Goron Yr Wyddgrug ei fod wedi gweld Mr Parry yn cicio'r ddynes "gyda'i holl nerth".
Dywedodd: "Fe welais ddyn yn stampio ar rywun, roedd o'n stampio'n galed iawn gyda'i holl nerth, saith neu wyth o weithiau.
"A chicio hefyd, fel pêl-droediwr yn cicio pêl i mewn i'r gôl, yn cymryd cic o'r smotyn mor galed ac y gallai."
Mae'r achos yn parhau.