Bale i golli un o gemau Cymru?
- Cyhoeddwyd

Gallai tîm pêl-droed Cymru fod heb Gareth Bale ar gyfer y gêm baratoadol yn erbyn Iwcraen yn ddiweddarach yn y mis.
Fe fydd y rheolwr Chris Coleman yn cyhoeddi'r garfan i wynebu Gogledd Iwerddon yng Nghaerdydd ar 24 Mawrth yn ddiweddarach ddydd Mercher, a dyna'r garfan fydd hefyd yn teithio i Kiev bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Mae disgwyl i Bale - prif sgoriwr Cymru yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016 - gael ei gynnwys yn y garfan.
Ond mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymwybodol bod partner Bale, Emma Rees Jones, yn disgwyl eu hail blentyn dros y Pasg.
Y disgwyl yw y bydd y plentyn yn cael ei eni ym Madrid, ac mae'r Gymdeithas yn paratoi eu hunain i fod heb y chwaraewr am yr ail o'r gemau cyfeillgar.
Pe bai Bale yn absennol fe fyddai'n enw arall ar restr hir fydd ddim ar gael i Chris Coleman wrth iddo baratoi am y gystadleuaeth fawr yn Ffrainc dros yr haf.
Eisoes mae'n gwybod na fydd Aaron Ramsey o Arsenal, amddiffynnwr West Ham James Collins na Dave Edwards o Wolves ar gael.
Credir hefyd y bydd amddiffynnwr Newcastle Paul Dummett yn methu'r gêm oherwydd anaf.