Dim cosb i Marler yn dilyn sylw am Samson Lee
- Cyhoeddwyd

Marler (rhif 1) a Lee yn ymrafael yn ystod y gêm ddydd Sadwrn
Bydd Joe Marler yn rhydd i chwarae dros Loegr yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn yn dilyn ymchwiliad i sylwadau ganddo am Samson Lee yn ystod gêm Cymru y penwythnos diwethaf.
Mewn datganiad, dywedodd trefnwyr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eu bod yn ymwybodol o ddifrifoldeb sylwadau Mr Marler ac nad oedden nhw mewn unrhyw ffordd yn cefnogi'r hyn a gafodd ei ddweud.
'Ymchwiliad trylwyr'
Dywedodd y trefnwyr eu bod wedi ystyried y mater yn ofalus:
"Mae Rygbi'r Chwe Gwlad wedi cynnal ymchwiliad trylwyr i'r digwyddiad ac wedi nodi'r ffaith fod Mr Marler wedi difaru'r hyn a ddywedodd e'n syth, ac wedi ymddiheuro wrth Mr Lee yn ystod hanner amser.
"Rydym hefyd wedi nodi fod Hyfforddwr tîm Lloegr, Eddie Jones wedi rhoi cerydd i Mr Marler a'i atgoffa o'i gyfrifoldebau fel chwaraewr rygbi rhyngwladol."
"Mae Rygbi'r Chwe Gwlad wedi derbyn yr eglurhad a roddwyd, fod y sylw wedi ei wneud yng ngwres y frwydr.
"O ystyried yr holl ffeithiau, fydd yna ddim camau disgyblu. Mae Rygbi'r Chwe Gwlad nawr yn ystyried fod y mater ar ben."
Marler yn ymddiheuro
Mae Joe Marler wedi gwneud y datganiad canlynol:
"Rwyf wedi derbyn o'r dechrau i mi wneud sylw annoeth wrth Samson. Cafodd ei wneud yng ngwres y frwydr. Fe ymddiheurais wrth Samson Lee, heb gael fy nghymell, yn ystod hanner amser a chafodd yr ymddiheuriad ei dderbyn. Fe ysgwydon ni ddwylo a chyfnewid gwen ar ddiwedd y gem.
"Rwyf wedi cael rhybudd clir gan Eddie Jones fod sylwadau fel hyn yn annerbyniol. Byddaf yn ymddwyn yn wahanol yn y dyfodol.
"Nid wyf yn annog hiliaeth mewn unrhyw ffordd nac ar unrhyw adeg, ac unwaith eto, rwyf yn ymddiheuro am unrhyw loes gafodd ei achosi gan fy sylw anaddas."