Abertawe 1-0 Aston Villa
- Cyhoeddwyd

Federico Fernandez yn ennill yr ornest i'r Elyrch
Mae Abertawe gam yn nes at sicrhau eu lle yn yr Uwchgynghrair y tymor nesaf wedi buddugoliaeth gartref yn erbyn Aston Villa.
Yr amddiffynwr Federico Fernandez sgoriodd yr unig gôl mewn perfformiad siomedig gan yr Elyrch.
Villa - sydd ar waelod y tabl - oedd y tîm cryfaf am y rhan fwyaf o'r ornest, ond fe fethon nhw â chymryd mantais o'u cyfleon.
Mi oedd y clwb o Birmingham yn eithaf anlwus i ildio pan darodd cic rydd Gylfi Sigurdsson ysgwydd Fernandez a tharo cefn y rhwyd. Wedi mynd ar y blaen, roedd Abertawe'n edrych yn fwyfwy cyfforddus, ond prin oedd y cyfleon i sgorio.
Mae Abertawe nawr yn y 15ed safle, 11 pwynt uwchben y safleoedd disgyn.