Gwrthdrawiad Ynys Môn: Cyhoeddi enw beiciwr fu farw
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi enw beiciwr lleol fu farw mewn gwrthdrawiad yn Nhrefor, Ynys Môn, fore Mawrth.
Bu farw Robert Idris Llewellyn, 70 oed o ardal Rhoscolyn, ar ôl cael ei daro gan fan Ford Transit ar y B5109 ychydig wedi 07:40.
Dywedodd ei deulu ei fod yn "dad, taid a gŵr oedd yn meddwl llawer i ni".
"Roedd yn ysbrydoliaeth i nifer o bobl, a bydd yn golled fawr."
Mae ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd yn parhau, ac mae'r heddlu yn awyddus i siarad ag aelod o'r cyhoedd oedd yn teithio ar feic modur ger cyffordd Trefor rhwng 07:00 ac 08:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2016
