Cyhoeddi clawr Cymraeg 50 diwrnod cyn dechrau Euro 2016
- Cyhoeddwyd

Dim ond 50 diwrnod sydd i fynd cyn dechrau Euro 2016 pan fydd miloedd o Gymry gobeithiol yn heidio i Ffrainc.
Mae'r gystadleuaeth yn dechrau ar 10 Mehefin, ond mae gêm gyntaf Cymru ar 11 Mehefin yn erbyn Slofacia, a hynny yn Bordeaux.
Lloegr fydd y gwrthwynebwyr yn yr ail gêm ar 16 Mehefin yn Lens, cyn i ddynion Chris Coleman herio Rwsia ar 20 Mehefin yn Toulouse.
Mis diwethaf daeth y cyhoeddiad mai'r Cymro Gareth Bale oedd y seren ar glawr un o'r gemau cyfrifiadurol pêl-droed mwyaf poblogaidd.

Fersiwn Gymraeg o glawr y gêm gyfrifiadurol Pro Evolution Soccer
Ond ddydd Iau, fe gyhoeddodd y cwmni sydd y tu ôl i Pro Evolution Soccer bod fersiwn Gymraeg, dolen allanol o'r clawr ar gael bellach hefyd.
Bydd y rheiny sy'n berchen ar y gêm yn gallu argraffu'r daflen Gymraeg ar y we a'i defnyddio fel clawr.
Mae'r gêm yn cael ei rhyddhau i nodi Euro 2016, y gystadleuaeth ryngwladol fawr gyntaf i Gymru fod yn rhan ohoni ers Cwpan y Byd 1958.