Steddfod Yr Urdd a'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Prysurdeb ar faes Eisteddfod yr Urdd Caerffili yn 2015
Ychydig ddyddiau sydd tan Eisteddfod yr Urdd 2016, sy'n golygu bod bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers iddi gael ei chynnal yn Sir Caerffili.
Eleni bydd tua 90,000 o ymwelwyr o bob cwr o Gymru yn ymweld â'r tir ger Ysgol Uwchradd Fflint rhwng 30 Mai-4 Mehefin.
Ond mewn ardal ble nad yw'r rhan helaeth o bobl yn siarad Cymraeg, ydy'r Steddfod yn manteisio ar y cyfle i hybu'r Gymraeg yn yr ardaloedd yma?
Yn ôl Cyfrifiad 2011, dywedodd bron i 80% o drigolion Sir y Fflint nad oedd ganddyn nhw unrhyw Gymraeg - gyda'r ffigwr dros 80% yng Nghaerffili.
Cafodd yr Eisteddfod yno'r llynedd ei disgrifio fel "[c]yfle gwych i hyrwyddo ac annog pobl leol i ddysgu Cymraeg".
Felly faint o effaith mae digwyddiad fel Eisteddfod yr Urdd yn ei gael ar yr ardaloedd lle nad yw'r Gymraeg yn rhan o fywyd pobl o ddydd i ddydd? Oes yna effeithiau positif yn y tymor hir?

Roedd Lowri Jones, sy'n gweithio ym Menter Iaith Caerffili, yn aelod o'r pwyllgor gwaith ar gyfer y Steddfod llynedd.
Meddai: "Beth oedd yn dda i weld fan hyn oedd bod grŵp mawr o bobl yn eu hugeiniau, tridegau a phedwardegau wedi helpu ni yn ystod y Steddfod y llynedd.
"Mae ganddom ni griw o gefnogwyr hŷn ond roedd hyn wedi trosglwyddo rhwng y cenedlaethau sydd yn anodd i'w cyrraedd weithiau. Mae'n grêt i weld hynny.
"Bydden i'n dweud fod y Steddfod wedi cael effaith hirdymor - yn enwedig ar fusnesau lleol sydd wedi gweld pwysigrwydd y Gymraeg am y tro cynta' efallai."
Parhau i gefnogi
"O'n i'n awyddus i weld fod yr unigolion yma oedd wedi bod yn flaenllaw ym mharatodau'r Eisteddfod y llynedd yn cario 'mlaen i gefnogi," ychwanegodd Lowri.
"Un o'r pethau sydd wedi digwydd ydy bod y bobl yma wedi cefnogi pwyllgorau oedd eisoes yn trefnu gweithgareddau drwy'r Gymraeg yn y gymuned. Mae hynny'n dda i weld.
"Cawsom ni ddigwyddiad Cinio Dydd Gŵyl Ddewi mawr yn y castell eleni ac roedd 'na drafodaeth i wneud hwnna'n rhywbeth blynyddol.
"Mae 'na dwf yn bendant wedi bod yn y rhai sy'n gwirfoddoli. Yn sicr mae 'na fwy o waith i'w wneud ond mae'r rhwydweithiau yna yn eu lle bellach."

Llun o'r maes eleni ychydig wythnosau yn ôl
'Anti-climax'
Mae Rhydian Birkinshaw, 20, yn astudio ym Mhrifysgol Met Caerdydd ac yn byw yn ardal Llanbradach, Caerffili.
Dywedodd nad oedd yn teimlo fod yr effaith a gafodd Steddfod yr Urdd ar ei fro genedigol wedi bod mor bellgyrhaeddol a byddai rhai yn hoffi credu.
"Falle fod hyn braidd yn cynical ond dwi'n credu bod Steddfod yr Urdd wedi bod yn ychydig o anti-climax - fel Gemau Olympaidd 2012," meddai Rhydian.
"Y bwriad oedd cael lot fwy o bobl i siarad Cymraeg, ond dyw e ddim wedi digwydd. Gall hynny fod lawr i'r diffyg diddordeb yn y Gymraeg yn lleol. Ond dyw fy rhieni i ddim yn siarad Cymraeg a dwi'n gwybod bod rhai pobl fel nhw yn teimlo tipyn bach yn excluded."
Ond mae o'r farn mai manteisio ar y dechnoleg fodern yw'r brif ffordd o gael Cymry ifanc i drochi yn yr iaith.
"Roedd 'na lot o waith da ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod yr Eisteddfod llynedd," meddai. "Dwi'n meddwl mai dyna yw'r ffordd ymlaen."