Cyhuddo dyn o geisio gipio plentyn yn Neiniolen
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 39 oed, o Brestatyn, Sir Ddinbych, wedi ei gyhuddo o geisio cipio plentyn mewn pentref yng Ngwynedd.
Cafodd y dyn ei arestio tua 19:15 nos Wener yn Neiniolen.
Fe ddigwyddodd y digwyddiad honedig yn ardal Hafod Olau o'r pentref.
Mae'r dyn hefyd yn wynebu cyhuddiadau o yfed a gyrru.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu na chafodd plentyn ei gipio o'r lleoliad yn ystod y digwyddiad.
Fe fydd y dyn yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon ddydd Llun.