Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro ar yr A534 yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

A534 wedi cau ar fore Gwener
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn galw am dystion, wedi gwrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A534 yn Llan-y-Pwll ger Wrecsam.
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â cherddwr a char.
Y gred yw bod dyn yn ei 50au yn cerdded rhwng cylchfan Holt a Stad Ddiwydianol Wrecsam ychydig wedi hanner nos fore Gwener.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y dyn lleol wedi marw yn y fan a'r lle, a bod ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, gan gynnwys gyrrwr y car oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 ar unwaith.