Tân mynydd Dwygyfylchi wedi'i gynnau’n fwriadol
- Cyhoeddwyd

Mae swyddogion tân wedi cadarnhau bod tân mynydd ym mhentref Dwygyfylchi ger Penmaenmawr wedi'i gynnau'n fwriadol.
Bu'r frigad yn gweithio am dridiau o 4 Mehefin i ddiffodd y tân ar fynydd Allt Wen.
Ar un adeg roedd y fflamau wedi cyrraedd tua 100 llath o res o fythynnod ac roedd pryder y gallai rhai pobl leol orfod gadael eu cartrefi.
Dywedodd Stuart Millington, uwch rheolwr diogelwch tân: "Yn anffodus mae wedi dod yn amlwg bod y tân wedi'i ddechrau'n fwriadol ac felly ry ni'n rhybuddio pobl fod hyn yn erbyn y gyfraith.
"Nid yw tanau o'r fath yn 'dipyn o hwyl'- maen nhw'n peryglu bywydau pobl ac anifeiliaid, yn bygwth cartrefi a busnesau.
"Mae tanau bwriadol yn gymdeithasol annerbyniol fel yfed a gyrru a ry'n ni'n cyd-weithio gydag asiantaethau eraill i fynd i'r afael â thanau hyn ac i ddiogelu a thawelu meddwl cymunedau."