Storm bwerus yn taro gorllewin a chanolbarth Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae storm bwerus wedi taro rhannau o orllewin a chanolbarth Cymru nos Fawrth.
Mae'r taranau wedi difrodi offer ar y rheilffyrdd gan arwain at oedi ar drenau.
Yn ôl Trenau Arriva Cymru mae'r gwasanaethau rhwng Caerfyrddin, Hendy-gwyn, Doc Penfro, Aberdaugleddau ac Abergwaun yn rhedeg tua hanner awr yn hwyr.
Yn Arberth yn Sir Benfro mae dwsinau o gwsmeriaid heb drydan ac mae rhai hefyd wedi colli cyflenwad ym Mhorth Tywyn.
Fe wnaeth y storm daro arfordir Penfro tua 17:00 cyn iddi symud tuag ar Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dweud bod y glaw wedi bod yn drwm ond nad ydyn nhw wedi cael eu galw i unrhyw ddigwyddiad.