Tywysog Charles yn dymuno lwc i dîm pêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd
Tywysog Charles yn dymuno'n dda i dîm Chris Coleman
Wrth i Dywysog Cymru ymweld â nifer o leoliadau yn y gogledd-orllewin ddydd Mawrth, fe ddymunodd lwc i'r tîm pêl-droed cenedlaethol yn eu gêm yn erbyn Portiwgal nos Fercher.
Mae Cymru wedi cyrraedd y rownd gynderfynol yn un o'r prif bencampwriaethau am y tro cyntaf yn eu hanes.
Dechreuodd y Tywysog ei daith ym mhentref Aberdaron ble bu ef a'i wraig, Duges Cernyw yn ymweld â'r siop sglodion a'r becws lleol.
Aeth y ddau yn eu blaenau i dref Cricieth, cartref i un o gestyll gwreiddiol Llywelyn Fawr, lle cafodd y ddau gyfle i ymweld â'r orsaf bad achub, ac fe gafodd y Tywysog ei dywys i weithdy'r gwneuthurwr clocsiau - Trefor Owen.

Y Tywysog yn cwrdd â swyddogion o Brifysgol Bangor ym Mhorthaethwy
Pan ofynnwyd iddo a oedd ganddo unrhyw neges i'r tîm pêl-droed cenedlaethol, dywedodd ei fod yn siŵr bod pawb yn "croesi eu bysedd" y gwnawn nhw ennill yn erbyn Portiwgal.
Penllanw'r daith oedd ymweliad ag un o ganolfannau astudio newydd Prifysgol Bangor.
Fe gafodd y Tywysog gipolwg ar waith llong ymchwil sydd wedi ei hangori ym Mhorthaethwy, ac fe ddadorchuddiodd lechen arbennig i nodi agoriad swyddogol y ganolfan.

Fe gafodd y Tywysog gyfle i fwynhau'r golygfeydd dros Y Fenai yn ystod ei ymweliad

Fe ddadorchuddiodd y Tywysog lechen arbennig i nodi agoriad Canolfan Astudiaethau Môr Prifysgol Bangor