Canmoliaeth i staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae pennaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi canmol ei staff am wasanaeth o safon uchel mewn cyfnod anodd.
Dywed prif weithredwr y gwasanaeth, Dr Andrew Goodall, fod y staff yn gyffredinol yn gallu ymdopi â'r pwysau.
Hwn yw ei ail adroddiad blynyddol.
Dywedodd: "Mae angen i ni ofyn beth sy'n bwysig i'r claf yn hytrach na beth sydd o'i le".
Amgylchiadau anodd
Fe ddiolchodd Dr Goodall i staff am eu gwasanaeth dan amgylchiadau anodd, gan ddweud fod nifer ohonynt yn "gwneud yn fwy na'r disgwyl er mwyn gwella gwasanaethau."
Dywedodd Dr Goodall y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth posib i edrych ar ôl buddiannau "staff y gwasanaeth iechyd o'r Undeb Ewropeaidd sy'n gweithio yng Nghymru, yn dilyn canlyniad y refferendwm."
Mae dros 500 o ddoctoriaid yng Nghymru sydd wedi eu hyfforddi yng ngwledydd y UE.

Dr Andrew Goodall
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni aros a gweld y manylion a'r cynlluniau ar ôl penderfyniad mor bwysig".
Dywedodd Venessa Young, cyfarwyddwr Conffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Cymru y corff sy'n cynrychioli byrddau iechyd, fod y gwasanaeth wedi llwyddo i gynnal lefel uchel iawn o berfformiad.
"Serch hynny nid ydym yn aros yn ein hunfan. Rydym yn gwybod fod yna lefydd lle mae modd gwella a bydd staff yn parhau i weithio'n galed er mwyn cynnig gofal i gleifion a wynebu'r her o'u blaenau," meddai.