Cyhoeddi rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd

Mae rhestr fer gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn wedi ei chyhoeddi lai na mis cyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Fynwy.
Bydd y beirniaid yn ystyried 10 albwm gan gymysgedd o artistiaid gwahanol yn cynnwys Band Pres Llareggub, Plu a Datblygu.
Unigolion o'r diwydiant cerddoriaeth wnaeth lunio'r rhestr fer, a bydd y beirniaid yn cyhoeddi'r enillydd ar faes yr Eisteddfod ar 5 Awst.
Gwenno Saunders ddaeth i'r brig y llynedd gyda'i halbwm 'Y Dydd Olaf'.
Y deg albwm a ddaeth i'r brig eleni oedd:
9 Bach - Anian
Alun Gaffey
Band Pres Llareggub - Mwng
Brython Shag
Calan - Dinas
Cowbois Rhos Botwnnog - IV
Datblygu - Porwr Trallod
Plu - Tir a Golau
Swnami
Yucatan - Uwch Gopa'r Mynydd
'Cymaint o amrywiaeth'
Dywedodd un o drefnwyr y wobr, Guto Brychan: "Mae'n braf iawn gweld cymaint o amrywiaeth ar restr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn unwaith eto eleni.
"Bydd yn ddiddorol gweld beth fydd barn y beirniaid yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
"Dyma'r trydydd tro i ni gyflwyno Albwm Cymraeg y Flwyddyn, ac mae'n bwysig bod yr Eisteddfod yn rhoi sylw haeddiannol i gerddoriaeth sydd wedi'i recordio neu'i greu'n ddiweddar.
"Mae'n braf gweld nifer o artistiaid gwahanol ar y rhestr fer eleni, ac rwy'n sicr y cawn enillydd haeddiannol unwaith eto eleni."