Cofio brwydr wnaeth gyffwrdd Cymru gyfan
- Cyhoeddwyd

Daeth Keith Jones o Gaernarfon i gofio am y miloedd o ddynion ifanc fu farw
Roedd heddiw yn ddiwrnod llawn emosiwn yn y dyffryn ble yr ymladdodd 38ain Adran (Gymreig) union 100 mlynedd yn ôl.
Mae ein cysylltiad uniongyrchol a'r Rhyfel Mawr wedi gwanhau dros y blynyddoedd am nad oes yna unrhyw un ar ôl o'r milwyr a ymladdodd yng Nghoedwig Mametz.
Mae eu disgynyddion yn dal i deimlo cysylltiad â'r Fyddin Gymreig a fentrodd i uffern y goedwig rhwng 7-12 Gorffennaf, 1916.
Cafodd dros 400 eu lladd ar y bore cyntaf gwaedlyd hwnnw ar 7 Gorffennaf.
'Mor ddiangen'
Roedd Keith Jones wedi dod o Gaernarfon i dalu gwrogaeth i'r milwyr ifanc a fentrodd i ferw'r frwydr.
Fel cyn aelod o'r Ffiwsilwyr Cymreig, roedd Keith yn teimlo dyletswydd i fod yn bresennol.
Dan deimlad, fe ddywedodd wrtha i bod "ein ffrindiau o'r Royal Welsh Fusiliers yn cwffio yma 100 mlynedd yn ôl... Heblaw am y bechgyn bach ifanc yna oedd yn rhoi eu bywyd i fyny, dwi ddim yn gwybod lle sa'ni heddiw".
Yn bresennol, yn eu cannoedd hefyd, oedd teuluoedd y milwyr a ymladdodd yng Nghoedwig Mametz.

Roedd gan Sian Roderick reswm teuluol dros fynd i Goedwig Mametz
Fe ddaeth Sian Roderick i ddilyn yn ôl traed ei thad-cu, Thomas Henry, a oedd yma yn 1916.
"Roedd e wedi dweud wrth fy nhad pwy mor erchyll oedd e yn y goedwig," meddai.
"Wrth yrru i lawr yma heddiw o ni methu credu wrth basio bedd ar ôl bedd ar ôl bedd mor ddiangen oedd y rhyfel yma... Roedd e'n ofnadwy."
Mae hi'n anodd dychmygu'r gyflafan yn y goedwig yn ystod y frwydr wrth edrych ar y coed a'r caeau amaethyddol ffrwythlon yn y dyffryn hardd yn ardal y Somme.
Efallai na fydd seremoni debyg i'r un heddiw yn cael ei chynnal yng Nghoedwig Mametz eto wrth i'r cwlwm a'r cysylltiad gyda hanes y Rhyfel Byd Cyntaf lacio dros y blynyddoedd.
Ond mi fydd y rhai a oedd yn bresennol heddiw yng Nghoedwig Mametz yn cofio gwasanaeth urddasol a theimladwy yn ardal brydferth y Somme.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2016
