Apelio am wybodaeth am gi amddifad
- Cyhoeddwyd

Cafodd Sindy ei gadael wedi ei chlymu i bostyn
Mae elusen anifeiliaid yr RSPCA yn apelio am wybodaeth wedi i ast gael ei gadael wedi ei chlymu wrth bostyn yn Sir y Fflint.
Roedd yna nodyn gyda'r ci yn dweud: "Fy enw yw Sindy. Nid yw fy mherchennog yn gallu ymdopi bellach."
Roedd gan Sindy anafiadau i'w choesau ac roedd ganddi haint. Bu'n rhaid ei rhoi i gysgu, ond mae'r elusen yn chwilio am ei pherchennog.
Dywedodd yr Arolygydd Kia Thomas ar ran yr RSPCA: "Doedd yr ast ddim yn gallu defnyddio'i choesau ôl, doedd hi ddim yn gallu sefyll i gerdded ar ei phen ei hun, ac roedd yn dioddef o haint.
"Cafodd ei chludo at y milfeddyg ar unwaith, a phenderfynodd y mifeddyg... mai'r peth mwyaf caredig fyddai ei rhoi i gysgu."
'Dioddef gormod'
"Mae'n drueni mawr am ei bod yn ast hyfryd, ond roedd yn dioddef gormod."
Cafodd ei darganfod wedi ei chlymu wrth bostyn yn Nhalacre yn Sir y Fflint.
Dywedodd yr Arolygydd Thomas: "Hoffwn ddiolch i aelodau o'r cyhoedd a arhosodd gyda hi tan i fi gyrraedd. Mi ddarparon nhw gysgod i Sindy gydag ymbarél, a rhoi dwr iddi.
"Mi helpon nhw fi i'w chodi i'r fan am ei bod yn gi mawr. Mi ddangoson nhw garedigrwydd mawr iddi o dan amgylchiadau anodd."