Euro 2016: Cefnogwyr Cymru i groesawu'r garfan adref
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr pêl-droed Cymru groesawu tîm Chris Coleman yn ôl adref ddydd Gwener.
Bydd y garfan yn teithio mewn bws awyr agored o Gastell Caerdydd am 16:00 i Stadiwm Dinas Caerdydd yn Lecwydd, lle bydd y dathlu'n parhau.
Bydd adloniant ar y llwyfan o 17:15 - gan gynnwys y Manic Street Preachers - tra bydd cyflwyniad y chwaraewyr a'r staff yn dechrau am 18:45.
Daeth ymgyrch Cymru yn Euro 2016 i ben ar ôl colli yn erbyn Portiwgal yn y rownd gynderfynol o 2-0.

Chris Coleman
Yn ei gynhadledd olaf i'r wasg cyn ffarwelio â Ffrainc dywedodd Chris Coleman ei fod yn teimlo yn falch o'r chwaraewyr ar cefnogwyr.
"Maen nhw wedi bod yn wych."
Ond ychwanegodd: "Fe fydd y pwysau gwahanol arnom ni o hyn ymlaen, bydd pobl ddim yn fodlon efo 'Cymru fach sy'n dangos plwc' yn hytrach byddant yn disgwyl canlyniadau," meddai.
"Yn y gorffennol ni oedd yn amddiffyn gyda thimau eraill yn trio ein torri, nawr bydd pethau i'r gwrthwyneb."
"Fe wnaeth Portiwgal roi teyrnged i ni drwy amddiffyn yn ddwfn - ac fe wnaethom fethu a'u torri.
"Ond hyn fydd y cam nesa i ni, wrth i ni edrych ymlaen at yr ymgyrch nesa, ymgyrch Cwpan y Byd."
Angen i deithwyr gynllunio
O ran, trefniadau i groesawu'r tîm yn ôl, bydd nifer o ffyrdd yng nghanol y ddinas yn cau brynhawn Gwener ar gyfer yr orymdaith bydd nifer o ffyrdd yng nghanol y ddinas yn cau brynhawn Gwener ar gyfer yr orymdaith, mae'r manylion llawn ar gael yma, dolen allanol.
Bydd system giwio yng ngorsafoedd Caerdydd Canolog, Grangetown a Pharc Ninian o 19:30 ymlaen.
Dywedodd y cyngor hefyd na fyddai bysiau yn rhedeg fel yr arfer o ganol yn ddinas.
Bydd y chwaraewyr yn mynd ar y bws am 16:00 yn y castell, cyn ymlwybro drwy ganol y ddinas tuag at Stadiwm Dinas Caerdydd.
Un chwaraewr na fydd yno yw Joe Ledley. Fe fydd o'n methu'r parti dathlu gan ei fod yn teithio i Ibiza ar gyfer ei briodas.

Bydd y tîm yn teithio mewn bws awyr agored o Gastell Caerdydd i Stadiwm Dinas Caerdydd yn Lecwydd, lle bydd y dathlu'n parhau
Ar ôl ennill eu lle mewn pencampwriaeth bêl-droed am y tro cyntaf ers 1958, gorffennodd Cymru'r rowndiau cyntaf ar ben y grŵp, uwchben Lloegr, Slofacia a Rwsia.
Roedd tocynnau i'r digwyddiad ddydd Gwener ar gael i ddechrau i'r cefnogwyr oedd yn aelodau yn ymgyrch ragbrofol y gystadleuaeth, cyn mynd ar werth i'r cyhoedd.
Bydd y cyfan i'w weld yn Gymraeg ac yn Saesneg ar deledu ac ar radio gyda BBC Cymru, ac fe allwch ddilyn y cyffro ar lif byw Cymru Fyw hefyd.
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford: "Mae hyn yn ffordd wych i bawb ddathlu'r hyn sydd wedi bod yn gyfnod hanesyddol i bêl-droed Cymru.
"Mae'r golygfeydd rydyn ni wedi eu gweld adref ac yn Ffrainc wedi bod yn anhygoel ac rydym yn gobeithio y gall ein cefnogwyr angerddol fwynhau moment arall gyda'r chwaraewyr fel coron ar wythnosau cofiadwy."