Dau yn sownd mewn car wedi gwrthdrawiad ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
damwainFfynhonnell y llun, Richard Evans

Roedd dau berson yn sownd mewn car yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A5 ar Ynys Môn prynhawn Gwener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ym Mryngwran am 17:49.

Dim ond un car oedd yn rhan o'r digwyddiad a bu'n rhaid defnyddio'r offer arbennig i ryddhau'r ddau berson o'r cerbyd.

Bu'r ffordd ar gau am gyfnod tra bo'r gwasanaethau brys yn delio â'r digwyddiad.