Dyn yn yr ysbyty wedi iddo gael ei daro gan gar
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei gymryd i'r ysbyty wedi iddo gael ei daro gan gar yn oriau man y bore yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd y dyn ei daro gan y Vauxhall Corsa du ar Stryd Llewellyn ym Mhentre am 01:47 fore Sul.
Fe gafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty ond does dim gwybodaeth eto am ei gyflwr.
Dywedodd Heddlu'r De bod gyrrwr y car yn helpu gyda'u hymchwiliad ac mae'r llu yn gofyn i unrhyw dystion i gysylltu â nhw.