Tom Bradshaw yn ymuno â Barnsley yn y Bencampwriaeth
- Cyhoeddwyd

Mae ymosodwr Cymru, Tom Bradshaw wedi ymuno â Barnsley yn y Bencampwriaeth ar gytundeb tair blynedd.
Roedd Bradshaw wedi gwneud cais i Walsall ddydd Mercher i symud clwb.
Fe wnaeth yr ymosodwr 23 oed ennill ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn Iwcraen ym mis Mawrth, ond doedd o ddim yn rhan o'r garfan ar gyfer Euro 2016 oherwydd anaf i'w goes.
Llwyddodd i sgorio 20 o goliau i Walsall y tymor diwethaf, ac roedd nifer yn credu ei fod wedi gwneud digon i sicrhau lle yng ngharfan Euro 2016 Chris Coleman, cyn ei anaf.