Depo dosbarthu bara: Swyddi mewn peryg
- Cyhoeddwyd

Mae swyddfa AS Alun a Glannau Dyfrdwy, Mark Tami wedi cadarnhau eu bod wedi cael eu hysbysu trwy lythyr fod cwmni Allied Bakeries wedi dechrau proses ymgynghori dros gynlluniau i gau depo dosbarthu'r cwmni yn Saltney, Sir y Fflint.
Mae swyddfa Mr Tami yn deall bod y staff ar y safle wedi cael gwybod dydd Iau mai bwriad y cwmni yw cau'r depo ym mis Tachwedd.
Mae'r cwmni wedi dweud eu bod eisiau sicrhau fod y diswyddiadau yn cael ei gadw i gyn-lleied ac sydd bosib.
Mae disgwyl y bydd cynnig i rhai aelodau o'r gweithlu symud i swyddi gwag ar safleoedd eraill y cwmni.
'Natur gystadleuol'
Mae swyddfa Mark Tami AC yn dweud bod y llythyr maent wedi ei dderbyn yn siarad am natur gystadleuol y sector bobi, gyda phris bara yn disgyn tra bod costau cynhyrchu'n codi.
Mae'r cwmni wedi dweud wrth yr AS eu bod yn credu fod cau'r depo yn Saltney yn ymdrech i "aros yn gystadleuol."
Dywedodd llefarydd ar ran Allied Bakeries:
"Gallwn gadarnhau ein bod, o ganlyniad i adolygiad manwl o Allied Bakeries, wedi cyhoeddi cynnig i gau ein depo ar Ffordd Caer fel rhan o raglen i wella effeithlonrwydd ein rhwydwaith dosbarthu bara.
"Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori â'r gweithwyr a'u cynrychiolwyr undeb dros y cynigion hyn, ac os byddant yn cael eu derbyn, yn anffodus, fe fydd 53 o bobl mewn perygl o gael eu diswyddo.
"Rydym yn deall fod hwn yn gyfnod anodd ac ansefydlog ar gyfer ein gweithwyr a'u teuluoedd. Os bydd y cynigion yn cael eu derbyn, bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i helpu'r bobl hynny yr effeithir arnynt i ganfod gwaith arall, naill ai o fewn rhannau eraill o gwmni Allied Bakeries, neu'n allanol yn yr ardal leol."