Amseroedd aros canser yng Nghymru yn gwella rhywfaint
- Cyhoeddwyd

Mae amseroedd aros canser yng Nghymru wedi gwella rhywfaint, gyda'r GIG yn cyrraedd un o'i brif dargedau ond yn methu un arall o gryn dipyn.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf ar gyfer mis Mai, cafodd 98.3% o gleifion, gafodd ddim eu cyfeirio am ganser posib ond yna eu diagnosio, ddechrau triniaeth o fewn 31 diwrnod.
Dyma gynnydd o'i gymharu â 96.7% ym mis Ebrill.
Y targed yw 98% a chafodd hwn ei gyrraedd ddiwethaf ym mis Chwefror.
Fe wnaeth pedwar o'r chwe bwrdd iechyd yng Nghymru sy'n darparu gofal canser gyrraedd y targedu, ond fe wnaeth Aneurin Bevan a Caerdydd a'r Fro fethu â gwneud hynny.
Fe wnaeth y gwasanaeth iechyd fethu rhai o'i brif dargedau eraill, fel sicrhau bod 95% o gleifion sy'n cael eu diagnosio gyda chanser yn cael triniaeth o fewn 62 diwrnod.
Ym mis Mai, cafodd 88.6% o gleifion driniaeth o fewn deufis, i fyny o 86.7% ym mis Ebrill.
Ond ni wnaeth yr un o'r byrddau iechyd, yn unigol, gyrraedd y targed hwn.

Dywedodd Vaughan Gething bod y llywodraeth yn trin mwy o gleifion canser "nag erioed yng Nghymru"
Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd mae'r llywodraeth yn trin mwy o gleifion canser "nag erioed yng Nghymru" ac mae "cyfraddau goroesi canser yn parhau i wella o flwyddyn i flwyddyn".
Dywedodd Vaughan Gething: "Mae'n galonogol gweld y byrddau iechyd yn gwella'u perfformiad ac yn sicrhau bod mwy o bobl yn dechrau cael triniaeth o fewn yr amser targed.
"Yn arbennig, rwy'n falch iawn o weld bod byrddau iechyd wedi cyrraedd y targed anodd o 98% yn cael triniaeth o fewn 31 diwrnod, ac yn gwella o ran y targed 62 diwrnod.
"Yn y deuddeg mis diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd o 3.6% yn nifer y cleifion sydd wedi dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod.
"Rydyn ni'n gweld gwelliannau go iawn, nid yn unig yn erbyn y targedau hyn ar gyfer yr amser i gael triniaeth, ond hefyd o ran canlyniadau.
"Bydd dros hanner y bobl bellach yn goroesi am bum mlynedd ar ôl cael diagnosis ac mae nifer y rhai sy'n marw'n gynnar yn sgil canser wedi syrthio tua 14% yn y 10 mlynedd ddiwethaf."