Treisiwr o Wynedd: Tynnu apêl yn ôl yn America
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Wynedd gafodd ddedfryd o garchar am 50 mlynedd yn yr Unol Daleithiau wedi tynnu ei apêl yn erbyn y ddedfryd yn ôl.
Cafodd Gareth Vincent Hall, 23 oed o Dalysarn, ei ddedfrydu ar ôl cyfadde' treisio plentyn sawl gwaith.
Fe gafodd ei garcharu ym mis Mawrth ar ôl pledio'n euog i bedwar cyhuddiad o dreisio a throseddau rhyw arall yn erbyn merch 10 oed yn nhalaith Oregon wedi iddo ei chyfarfod ar y we.
Dywedodd Marc D Brown o Swyddfa Gwasanaethau Amddiffyn Cyhoeddus Oregon nad oedd yn medru datgelu pam bod Hall wedi tynnu ei apêl yn ôl oherwydd y rheol cyfrinachedd rhwng cyfreithiwr a'i gleient.
Camau eraill posib
Fodd bynnag fe wnaeth Mr Brown gadarnhau bod cyfraith yr Unol Daleithiau yn dal i adael ambell ddewis i Hall fedru herio'r euogfarn.
Un dewis posib yw camau sifil sy'n ceisio hawlio bod y diffynnydd wedi cael ei gynrychioli'n wael gan ei gyfreithiwr.
Dywedodd Mr Brown nad oedd yn gwybod a oedd Hall yn bwriadu cymryd y camau yna, ond pe byddai'n gwneud hynny, byddai cyfreithiwr arall yn cael ei benodi i'w gynrychioli.
Yn ôl Llys Apêl Oregon, nid yw Hall wedi cyflwyno apêl o unrhyw fath.
Hanes yng Nghymru
Roedd Hall eisoes yn destun ymchwiliad gan Heddlu Gogledd Cymru wedi iddo gael ei arestio yn Hydref 2014 ar amheuaeth o gyflawni troseddau ar-lein.
Cafodd ei wahardd o'i swydd fel achubwr bywyd gyda Chyngor Gwynedd, lle'r oedd yn dysgu plant i nofio.
Yn yr achos yn ei erbyn yn Oregon, honnodd Hall ei fod yn credu bod y ferch dan sylw yn 16 neu 17 oed, ond gwrthododd y barnwr yr honiad mai "camgymeriad diniwed" oedd hynny.
Wrth bledio'n euog fe wnaeth Hall arwyddo datganiad yn dweud ei fod yn disgwyl cael ei garcharu am o leia' 25 mlynedd.
Roedd ei gyfreithiwr wedi dadlau y dylai'r ddedfryd fod ar waelod y rhestr o safbwynt amser, ond dywedodd y barnwr ei fod yn haeddu'r mwyafswm, sef 50 mlynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2016
