Morgannwg: Dim canlyniad wedi glaw yn Sussex
- Cyhoeddwyd

Mae Morgannwg yn sicr o chwarae eu gêm yn wyth olaf y T20 Blast yng Nghaerdydd, ar ôl i law effeithio eu gêm yn erbyn Sussex ddydd Iau.
Siomedig oedd batwyr Morgannwg wrth i Sussex eu bowlio allan am ond 101 o fewn 14 pelawd yn Hove.
Fe wnaeth George Garton gymryd pedwar wiced, a chafodd Tymal Mills ddau.
Llwyddodd y tîm cartref i gyrraedd 30-1 pan gyrhaeddodd y glaw ar ôl 5.1 pelawd.
Petai Sussex wedi wynebu o leiaf chwe phelawd gyfan byddai modd cyfrifo canlyniad, ond roedd rhaid atal y chwarae, gan olygu nad oedd canlyniad i'r gêm.
Mae hynny'n golygu bod y ddau dîm yn derbyn pwynt yr un, a Morgannwg sy'n symud ymlaen i rownd yr wyth olaf.
Roedd buddugoliaeth i Essex dros Middlesex yn golygu nad yw Middlesex yn gallu symud uwchben Morgannwg yn y grŵp, ac felly bydd Morgannwg yn chwarae'r gêm nesaf yn y gystadleuaeth yn Stadiwm Swalec.