Arestio dyn 86 oed wedi llofruddiaeth yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn 86 oed mewn cysylltiad â llofruddiaeth dynes yng Nghaerdydd.
Fe gafodd corff dynes 85 oed ei ganfod mewn eiddo ar Ffordd Fairfax yn ardal Y Waun ddydd Iau.
Mae Angus Mayer, 86, wedi ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth ei wraig, Margaret.
Mae Heddlu'r De hefyd wedi cadarnhau fod yr achos yn gysylltiedig â digwyddiad yng ngorsaf Caerdydd Canolog ddydd Iau, pan gafodd dyn 86 oed ei daro gan drên.
Fe gafodd y dyn ei daro tua 12:30, gan achosi oedi i wasanaethau drwy'r dydd.
Mae'r gŵr yn parhau i gael ei drin yn yr ysbyty oherwydd ei anafiadau.