Cyfle arall am fedal i Thomas yn y Gemau Olympaidd
- Cyhoeddwyd

Fe fydd y seiclwr Geraint Thomas yn cael cyfle arall i ennill medal Olympaidd yn Rio ddydd Mercher.
Roedd gan y Cymro gyfle i ennill y ras ar y ffordd dros y penwythnos, ond cafodd ddamwain ddifrifol a gorffen yn ddegfed.
Ond daeth cyhoeddiad ddydd Mawrth y bydd yn cystadlu yn y ras yn erbyn y cloc ddydd Mercher gan fod rhai cystadleuwyr wedi gorfod tynnu nôl oherwydd anaf.
Enillodd Thomas fedal efydd yn y ras yn erbyn y cloc yn Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014.
Dywedodd Thomas: "Hoffwn ddymuno gwellhad buan i'r rhai sydd wedi gorfod tynnu nôl. Fe wnes i golli tipyn o groen yn y ddamwain a chael ergyd i 'nghlun, ond mae fy nghoesau'n teimlo'n dda a fedra i ddim disgwyl i gael rasio eto yfory."