Carreg yn disgyn gan anafu dau ar un o fynyddoedd Eryri
- Cyhoeddwyd

Mae tri o gerddwyr wedi cael eu hachub gan hofrennydd ar ôl i garreg ddisgyn ar ddau ohonyn nhw ar un o fynyddoedd Eryri.
Fe gafodd bachgen 12 oed anaf i'w law a dyn 19 oed ei daro yn ei ben gan y garreg ar fynydd Tryfan yn Nyffryn Ogwen, ddydd Sul.
Fe gafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Roedd y ddau yn perthyn i grŵp o 12 o gerddwyr, mae'n ymddangos nad yw'r anafiadau yn rhai difrifol.