Llai yn dioddef ac yn marw o glefyd y galon yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae llai o bobl yn dioddef ac yn marw o glefyd y galon yng Nghymru, yn bennaf oherwydd gostyngiad mewn ysmygu ac yfed yn ormodol.
Yn ôl Adroddiad Blynyddol Clefyd y Galon, mae gostyngiad o chwarter wedi bod yn nifer y marwolaethau, o ychydig dros 12,000 yn 2005 i tua 9,000 yn 2014.
Mae'r adroddiad yn awgrymu gwneud mwy o waith i fynd i'r afael â pheryglon ffordd pobl o fyw, cynyddu diagnosis cynnar a'i gwneud yn haws dod o hyd i wasanaethau adfer.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething y byddai'r awdurdodau yn "adeiladu ar y gwaith cadarnhaol sydd wedi'i wneud yn barod".
Un o bob 12
Yn 2015 dywedodd tua un o bob 12 oedolyn yng Nghymru eu bod yn derbyn triniaeth am gyflwr yn ymwneud â'r galon.
Dywedodd yr adroddiad bod y frwydr yn erbyn clefyd y galon yn "flaenoriaeth genedlaethol", gan ychwanegu ei fod yn effeithio'n arbennig ar gymunedau difreintiedig.
Gwelwyd gostyngiad yn nifer yr oedolion sy'n ysmygu, o 23% yn 2010 i 19% yn 2015.
Cafodd gwasanaethau cardioleg cymunedol eu llongyfarch yn yr adroddiad am alluogi cleifion i gael triniaeth yn fwy lleol, ac yn gynt nag o'r blaen.
Llwyddodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg i dorri amseroedd aros ar gyfer diagnosis o chwe mis i dri mis.

Dywedodd Vaughan Gething bod yr adroddiad yn un "cadarnhaol"
Dywedodd Mr Gething: "Mae'r gostyngiad cyson yn nifer y bobl sy'n marw o glefyd cardiofasgwlaidd, ynghyd â'r ffaith bod llai o bobl yn dioddef o glefyd y galon yn ganlyniad yr ydyn ni'n falch ohono.
"Ond nid da lle gellir gwell, ac mae'r adroddiad yn nodi'r meysydd rheini y dylid rhoi sylw iddynt.
"Byddwn yn edrych ar y meysydd hyn ac yn parhau i adeiladu ar y gwaith cadarnhaol sydd wedi'i wneud yn barod."