Teyrnged i forwr fu farw ger Aberystwyth
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau achub eu galw i adroddiadau fod cwch yn symud mewn cylchoedd yn y bae
Mae teyrnged wedi cael ei thalu i ddyn fu farw ar ôl syrthio i'r môr o gwch yn Aberystwyth.
Roedd y dyn, sydd wedi enwi'n lleol fel Bill Davies, yn un o ddau gafodd eu codi o'r dŵr ger yr harbwr fore Mercher.
Dywedodd gwraig y dyn arall, Alan Jones, ei bod hi a'i gŵr wedi "torri eu calonnau".
"Mae Alan wedi colli ei wingman, ei was priodas, ac mae o ar chwâl", meddai Amanda Jones.
Taith bysgota
Cafodd y gwasanaethau achub eu galw tua 09:30 fore Mercher wedi adroddiadau fod cwch modur yn symud mewn cylchoedd yn y bae.
Tynnwyd y dynion o'r dŵr gan wirfoddolwyr bad achub y RNLI, ond bu farw Mr Davies. Cafodd Mr Jones ei gludo i Ysbyty Bronglais am driniaeth.
Yn ei datganiad ar Facebook, fe roddodd Mrs Jones fwy o wybodaeth am yr hyn meddai oedd wedi digwydd y bore hwnnw.
Esboniodd bod y ddau wedi mynd i bysgota am 08:00, ond bod Mr Davies wedi dechrau teimlo'n sâl yn fuan wedyn ac eu bod wedi penderfynu troi am adref.
"Ar y ffordd mewn i'r harbwr, cafodd y cwch ei ddal gan don. Roedd Alan wedi tynnu'r cortyn diogelwch oddi ar ei arddwrn dros dro er mwyn sefyll yng nghanol y cwch i allu gweld y ffordd i mewn, a fe gafodd Alan a Bill eu taflu dros yr ochr, a dyma'r cwch yn dechrau cylchu o'u cwmpas nhw ac uwch eu pennau nhw", meddai.
'Ar chwâl'
Ychwanegodd Mrs Jones bod ei gŵr wedi ceisio cadw Mr Davies uwchben y dŵr, gan nofio i nôl bwi i'w helpu i arnofio.
"Bu Bill farw yn ei freichiau, a 'dyn ni wedi torri ein calonnau," meddai.
"Mae o'n gadael gwraig hardd ar ei ôl a ddown ni fyth dros hyn."
Cafodd y cwch ei dynnu 'nôl i Farina Aberystwyth gan yr RNLI.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod swyddogion arbenigol yn cynnig cymorth i berthnasau'r dyn fu farw.