Scarlets 13-23 Munster
- Cyhoeddwyd

Cais da, ond dim pwyntiau i'r Scarlets
Scarlets 13-23 Munster
Mae tomor newydd yn y Pro 12 wedi dechrau ym Mharc y Scarlets, ond Munster gipiodd y fuddugoliaeth.
Fe welodd y dorf ddechrau bywiog - y tîm cartref yn symud y bêl ac yn rheoli'r meddiant.
Gyda'u hymosodiad cyntaf i '22 Llanelli, sgoriodd Munster. James Cronin yn croesi o dan y pyst ar ol 18 munud.
Ac yn fuan wedyn fe ildiodd y Scarlets eto, yr asgellwr Ronan O'Mahony yn rhedeg trwy fwlch enfawr yn yr amddiffyn.
Yna fe sgoriodd Gareth Davies gais rhyfeddol.
Fe gymerodd e gic cosb yn sydyn yn ei hanner ei hun ac fe redodd yr holl ffordd, gyda chymorth cic a chwrs, i linell gais Munster.
Yn yr ail hanner roedd y cyfleoedd i'r ddau dîm yn fwy prin, wrth i'r glaw ddisgyn.
Roedd amddiffyn Munster yn ddigon cryf i wrthsefyll holl ymdrechion y Scarlets.