Port Talbot: 'Angen ymyrryd i osgoi tlodi'
- Cyhoeddwyd

Mae angen i lywodraethau Cymru a'r DU ymyrryd yn fwy effeithiol er mwyn atal tlodi, medd sefydliad Joseph Rowntree.
Yn ôl y sefydliad annibynnol, mae angen mynd i'r afael â bygythiadau i les yr economi, fel yr ansicrwydd am ddyfodol gweithfeydd TATA yng Nghymru.
Dywedodd y sefydliad y dylid cefnogi cymunedau fel Port Talbot, sydd mewn perygl o wynebu "sioc" economaidd oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn â dyfodol TATA.
Mae adroddiad JRF yn dweud bod angen cymryd camau strategol mawr i osgoi "gwarth" tlodi yn yr oes fodern.
Angen 'bargen newydd'
Yn ôl Julia Unwin, Prif Weithredwr JRF: "Mae'n warth bod 13 miliwn o bobl yn byw mewn tlodi yn y DU."
"Mae angen 'bargen newydd' i atal tlodi er mwyn i blant sy'n rhan o genhedlaeth Brxit gael cyfle i gael bywyd da.
"Mae ymdrechion blaenorol i leihau tlodi wedi bod yn rhanedig ac yn rhy wan, ac wedi methu lleihau lefelau tlodi yn ddigonol."
Mae'r JRF yn hawlio bod tlodi yn costio £78 biliwn i lywodraethau'r DU, sef £1,200 i bob person.
Er mwyn datrys tlodi, meddai'r sefydliad, mae angen cefnogi'r economi a chymunedau, ac ystyried datganoli mwy o rym i lywodraeth leol er mwyn hybu datblygiad economaidd lleol.