Cynnydd mawr mewn troseddau casineb
- Cyhoeddwyd

Roedd yna gynnydd mawr mewn troseddau casineb ystod cyfnod y refferendwm, yn ôl ffigyrau sydd wedi eu casglu gan Cymorth i Ddioddefwyr a Uned Trosedd Casineb Cymru.
Yn ystod Mehefin a Gorffennaf 2016 roedd 639 digwyddiad, o'i gymharu â 400 trosedd yn ystod yr un cyfnod yn 2015.
Roedd yna gynnydd hefyd mewn troseddau hiliol. Roedd 443 digwyddiad yn ystod Mehefin a Gorffennaf 2016 o'i gymharu â 283 yn 2015.
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud y dylai pobl roi'r gorau i'r casineb ddaeth i'r wyneb yn ystod yr ymgyrch.
Yn ôl Gareth Cuerden, rheolwr Uned Trosedd Casineb Cymru, mae'r ystadegau yn adlewyrchu cyfuniad o ffactorau - ymgyrch y refferendwm a rhagor o ymwybyddiaeth yn y cyfryngau o droseddau casineb yn ystod y cyfnod.
Dywedodd Mr Cuerden: "Yr hyn mae Brexit wedi gwneud yw rhoi rhagor o sylw i'r mater ac mae nifer o unigolion wedi tynnu sylw at esiamplau o ddigwyddiadau lle maen nhw'n credu eu bod wedi eu targedu oherwydd Brexit.
"Hefyd mae pobl yn fwy cyfarwydd â'r derminoleg ac yn teimlo yn fwy hyderus i adrodd am droseddau fel hyn."