Gemau Paralympaidd: Y Cymry sy'n cystadlu ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd

Mae 26 o Gymru yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd yn Rio eleni - 10% o gyfanswm tîm Prydain.
Yn y gemau diwethaf yn Llundain fe wnaeth dîm Prydain ennill 120 o fedalau, gyda 14 o'r rheiny gan y Cymry.
Y tro yma'r targed gan Chwaraeon Cymru yw rhwng 20 a 30 medal rhwng gemau Rio 2016 ac yna Tokyo mewn pedair blynedd.
Dyma'r Cymry fydd yn cystadlu yn Rio ddydd Mercher.

Nofio

Enw: Aaron Moores
Camp: 100m broga SB14 - Rownd gyntaf a'r ffeinal
Dyddiad geni: 16 Mai, 1994
Lle magwyd: Abertawe
Cafodd Moores fedal arian yn y dull cefn yn ei Gemau Paralympaidd cyntaf yn 2012 mewn amser o 1:04.44. Ers symud yn ôl i Abertawe i hyfforddi mae wedi gostwng record y byd ar gyfer nofio broga 100m ddwywaith.

Athletau

Enw: Laura Sugar
Camp: 200m T44 - Rownd gyntaf
Dyddiad geni: 7 Chwefror, 1991
Lle magwyd: Caerdydd
Roedd Laura yn arfer chwarae hoci ar lefel rhyngwladol i Gymru. Ar ôl gwylio'r gemau yn Llundain cafodd sgwrs gyda meddyg y tîm, wnaeth ddweud wrthi fod ei chyflwr, Talipes yn golygu y gallai gystadlu yn y Gemau Paralympaidd. Mae ei chyflwr yn golygu ei bod wedi ei geni gyda'i throed ar yr ongl anghywir. Er iddi gael llawdriniaethau i gywiro hyn does ganddi ddim llawer o symudiad yn ei ffêr. Ers cystadlu mae wedi ennill dwy fedal efydd ym Mhencampwriaeth IPC Ewrop yn Abertawe yn 2014.

Tennis bwrdd

Enw: Paul Karabardak
Camp: Tîm dosbarth 6-8
Dyddiad geni: 3 Hydref, 1985
Lle magwyd: Abertawe
Cyn cael strôc fawr yn 10 oed roedd Paul Karabardak yn chwaraewr pêl-droed brwd. Ond unwaith y dechreuodd chwarae tennis bwrdd daeth llwyddiant yn gyflym iddo. Enillodd fedal efydd tîm yn 16 oed yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd. Cafodd fedal aur yn yr US Open yn San Diego yn 2013 a daeth mwy o fedalau yn 2014. Enillodd fedal aur ac arian a chyrhaeddodd rownd gynderfynol Pencampwriaethau Ewrop yn Nenmarc y llynedd.


Enw: Sara Head
Camp: Tîm dosbarth 1-3
Dyddiad geni: 12 Ebrill, 1980
Lle magwyd: Beddau
Mae Head wedi cystadlu ddwywaith dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad a'r Gemau Paralympaidd yn Llundain lle enillodd fedal efydd yn y gystadleuaeth tîm. Roedd yn chwarae pêl-fasged cadair olwyn nes iddi ddechrau chwarae tennis bwrdd gyda'i chariad yn 2001. Cafodd wersi yn gyfrinachol er mwyn gwneud yn siŵr y byddai yn ei guro ac fe ddaeth i sylweddoli ei bod yn hoffi'r gamp.

Pêl-fasged Cadair Olwyn

Enw: Phil Pratt
Gemau: Rownd yr wyth olaf - Prydain v Awstralia
Dyddiad geni: 2 Chwefror, 1994
Lle magwyd: Caerdydd
22 oed yw Pratt ond mae eisoes wedi cael llawer o brofiad rhyngwladol ac wedi cael llwyddiant ym Mhencampwriaethau Ewrop gan ennill y fedal aur dan-22 oed yn 2014 a'r tlws hŷn flwyddyn yn ddiweddarach. Yn 2014 roedd yn nhîm cyntaf Prydain ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Ne Korea.

Rygbi Cadair Olwyn

Enw: Jim Roberts
Gemau: Prydain v Awstralia
Dyddiad geni: 3 Medi, 1987
Lle magwyd: Y Trallwng
Mae gan Roberts ddiddordeb mewn chwaraeon ers blynyddoedd a bu'n cystadlu mewn rygbi'r undeb, rygbi 7 bob ochr a thraws gwlad. Pan oedd yn fyfyriwr yn y brifysgol cafodd lid yr ymennydd bacteriol a bu'n rhaid i'r meddygon dorri ei ddwy goes i ffwrdd. Ei nyrs tra roedd yn yr ysbyty wnaeth sôn wrtho am y gamp ac yn 2013 fe gystadlodd am y tro cyntaf ym Mhencampwriaethau Ewrop yng Ngwlad Belg. Mae'n chwarae i dîm Phoenix Heat yn yr Unol Daleithiau yn y gaeaf a Llundain WRC yn yr haf.

Hwylio

Enw: Stephen Thomas
Camp: Cwch Sonar - Ras 5 a 6
Dyddiad geni: 5 Ionawr, 1977
Lle magwyd: Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Thomas wedi bod yn hwylio gyda John Robertson ers ei fod yn 26 oed, ac mae'r ddau, yn ogystal â Hannah Stodel, wedi bod yn hwylio gyda'i gilydd ym mhob Gemau ers Athen yn 2004. Yng Ngemau Llundain fe ddaeth y tîm Sonar yn bumed. Mae hefyd wedi cynrychioli Prydain mewn Hoci Iâ a Chymru mewn rygbi dan-18 oed.