Pro12: Munster 23-24 Gleision
- Cyhoeddwyd

Jack O'Donoghue yn cael ei daclo gan Josh Navidi a Nick Williams o'r Gleision
Sgoriodd yr asgellwr Tom James ddwy waith i'r Gleision wrth i'r tîm o Gaerdydd guro Munster yn Cork a sicrhau eu hail fuddugoliaeth o'r tymor yn y Pro12.
Mewn gêm agos a chyffrous, cais Dan Fish wedi 68 o funudau wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr.
Sgoriodd Andrew Conway a Dave Kilcoyne i Munster wrth iddyn nhw gael pwynt bonws wrth golli.
Fe wnaeth y Gleision adeiladu ar fuddugoliaeth yng ngêm gyntaf y tymor yn erbyn Edinburgh yr wythnos ddiwethaf.