Dirwy o £400,000 i gwmni purfa olew yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Cafodd safle'r purfa olew yn Rhoscrowdder ei gwerthu gan Chevron i gwmni Valero yn 2011
Mae cwmni sydd yn rhedeg purfa olew yn Sir Benfro wedi cael dirwy o £400,000 am dorri rheolau iechyd a diogelwch.
Fe gyfaddefodd Valero Energy Uk Ltd eu bod wedi methu â sicrhau amodau diogel yn y gweithle, a hynny'n groes i'r gyfraith.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod David Thomas, 55 oed, wedi cwympo o rodfa oedd yn gysylltiedig â thancer oedd yn dadlwytho ym mhurfa Rhoscrowdder ar 5 Mawrth 2012.
Fe ddioddefodd Mr Thomas anafiadau i'w goesau, ac mae wedi methu â dychwelyd i'r gwaith ers y ddamwain.
'Anafiadau parhaol'
Dywedodd Rupert Lowe, ar ran yr erlyniad, bod Mr Thomas wedi cwympo dros 10 troedfedd ar ôl i dŵr mynediad gwympo'n sydyn.
Roedd coesau Mr Thomas wedi mynd yn sownd mewn ceblau rhydd, gan olygu ei fod yn hongian oddi ar ddibyn.
Llwyddodd i afael ar drawst er mwyn tynnu'r pwysau oddi ar ei goesau, gan ddefnyddio'i brofiad fel dringwr, cyn aros i gael ei achub.
Fe dreuliodd 17 niwrnod yn Ysbyty Treforys, Abertawe ar ôl cracio asgwrn yn ei ddwy goes ac anafu'i ben-glin chwith, ac ers hynny mae wedi datblygu arthritis ac wedi methu â dychwelyd i'r gwaith.
'Wedi cael rhybudd'
Clywodd y llys bod y rhodfa yr oedd Mr Thomas arni wedi'i ddylunio'n wael, a'i fod wedi cwympo'n ddirybudd mewn digwyddiad tebyg yn 2010.
Roedd cwmni cynnal a chadw gafodd eu cyflogi gan Valero hefyd wedi rhybuddio ei fod yn "ddamwain oedd yn aros i ddigwydd".
Dywedodd Mark Watson, oedd yn cynrychioli Valero, bod gan y cwmni record diogelwch gwych, a'u bod wedi etifeddu'r rhodfa gan Chevron, cyn-berchnogion y burfa olew.
Ychwanegodd y cwmni eu bod bellach wedi cael gwared o'r rhodfa a dylunio system newydd.
Yn ogystal â'r ddirwy o £400,000 fe fydd yn rhaid i Valero Energy UK Ltd hefyd dalu £60,614 o gostau'r erlyniad yn ogystal, a'i gostau amddiffyn ei hun.