Archesgob: Derbyn priodasau hoyw 'yn mynd i gymryd amser'
Mae Archesgob Cymru wedi dweud y bydd hi'n cymryd amser i bobol dderbyn y syniad o briodasau hoyw, rhywbeth nad ydy'r Eglwys yng Nghymru wedi ei ganiatáu hyd yn hyn.
Fe ddaeth sylwadau'r Parchedicaf Barry Morgan wrth iddo annerch corff llywodraethol yr Eglwys am y tro ola cyn iddo ymddeol ym mis Ionawr.
Yn ei anerchiad, fe ddywedodd nad ydy hi wastad yn amlwg wrth ddarllen y Beibl beth ydy ewyllys Duw, yn achos pobol hoyw ymhlith eraill.
Bu'n siarad â gohebydd Newyddion 9, Ellis Roberts.