Dechrau ymgynghori ar wasanaeth tân y gogledd
- Cyhoeddwyd

Mae gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi dechrau ar ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau i arbed £2m o'i chyllideb yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Ymhlith y cynigion dadleuol mae cynllun i gael gwared ag un injan dân a swyddi o orsaf Wrecsam.
Mae'r awdurdod hefyd eisiau i gynghorau lleol gyfrannu mwy at redeg y gwasanaeth.
Bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan 12 Rhagfyr.