Caerffili: Newidiadau i'r drefn o ailgylchu gwastraff
- Cyhoeddwyd

Dywed Cyngor Sir Caerffili y byddant yn cyflwyno newidiadau i'r modd mae gwastraff bwyd a gwastraff o'r ardd yn cael eu casglu mewn ymdrech i gynyddu lefelau ailgylchu.
Yn y gorffennol roedd y math yma o wastraff yn cael ei gasglu ar y cyd, ond nawr bydd yn cael ei wahanu.
Fe fydd y gwastraff bywyd yn cael ei drin drwy ddefnyddio triniaeth anerobig, sy'n troi'r gwastraff yn ynni.
Yna tan fis Chwefror, bydd yn rhaid i bobl wneud cais penodol er mwyn cael gwastraff o'r ardd wedi ei gasglu.
Fe fydd y newidiadau yn dod i rym ar 31 Hydref.
Fe fydd gwastraff bwyd yn cael ei gasglu yn wythnosol.
Yn ôl y cyngor mae tua 38% o breswylwyr yn ailgylchu eu gwastraff bwyd.
Fe wnaeth gwaith ymchwil diweddar ddangos fod gwastraff bwyd yn gyfrifol am 28-30% o'r holl wastraff oedd yn cael ei gasglu yn y sir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2016

- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2016
