Dau wedi marw wedi gwrthdrawiad rhwng beiciau modur a fan
- Cyhoeddwyd

Mae dau berson wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur a fan Peugeot oedd yn towio ôl-gerbyd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A40 ger Llanymddyfri toc cyn 12:00 ddydd Sul.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod y gyrrwr beiciau modur wedi marw yn y fan a'r lle,
Mae gyrrwr a theithiwr y fan yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth feddygol.
Mae'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad ac mae'r heddlu yn gofyn i lygad dystion gysylltu trwy ffonio 101.