Canfod corff ar draeth Llanddulas
- Cyhoeddwyd

Traeth Llanddulas
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau fod corff wedi ei ganfod ar draeth Llanddulas yng Nghonwy.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 07:31 fore ddydd Mercher.
Mae swyddogion yn ymchwilio i'r achos, ond dydyn nhw ddim ar hyn o bryd yn trin yr achos fel un amheus.
Mae'r heddlu wedi cysylltu â theulu'r unigolyn fu farw.
Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.