Pwynt allweddol i Gymru yn Fienna
- Cyhoeddwyd

Joe Allen yn rhoi Cymru ar y blaen
Awstria 2-2 Cymru
Mae ymgyrch Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd wedi cymryd cam ymlaen wedi gêm gyfartal yn Fienna.
Roedd hi'n 90 munud anodd i Gymru wrth i Awstria reoli llawer o'r meddiant.
Ond yn gynnar yn yr hanner cyntaf cafodd Gymru gyfle pendant - peniad nerthol Gareth Bale yn cael ei atal gan arbediad Robert Almer.
Yna ar ôl 22 munud fe ergydiodd Joe Allen i gefn y rhwyd, ymdrech o bell yn dilyn rhediad Bale ar hyd yr asgell chwith.
Cyn yr egwyl fe sgoriodd Awstria - Marko Arnautovic yn manteisio ar gamgymeriad yn yr amddiffyn, wrth i David Alaba hollti'r amddiffyn.
Roedd y pwysau yn cynyddu ar Gymru a bu'n rhaid i Wayne Hennesey wneud sawl arbediad allweddol.
Gwendid amddiffynnol
Ond yn annisgwyl fe aeth Cymru ar y blaen - tafliad Gareth Bale, peniad James Chester, ac yng nghanol dryswch mawr yn y cwrt cosbi fe aeth y bel i'r gôl oddi ar amddiffynnwr Awstria.
Yn syth ar ôl yr egwyl fe fanteisiodd Arnautovic ar wendid amddiffynnol Cymru unwaith eto, ac roedd hi'n gyfartal unwaith eto.
Bu'n rhaid i Gymru frwydro i gadw'r sgôr yn gyfartal - ac fe ddaeth ergyd pellach i dîm Chris Coleman wrth i Joe Allen adael y cae gydag anaf.
Bydd Cymru yn wynebu Georgia nos Sul yng Nghaerdydd- o bosib heb eu chwaraewr canol cae disglair.

Dwy gôl i Marko Arnautovic