Y Parchedig Milton Jenkins yn cofio Aberfan
Roedd y parchedig Milton Jenkins yn Aberfan ar Hydref yr 21ain 1966.
Roedd gan ei gyfnither a'i gŵr, y gweinidog lleol y Parchedig Kenneth Hayes, ddau o blant yn 9 ac 8 oed oedd yn ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Pantglas.
Ar y bore dydd Gwener, arhosodd y plentyn 8 mlwydd oed gartref ar ôl bod yn sâl y noson flaenorol, ond roedd yr hynaf, Dyfrig ar goll.
Aeth Mr Jenkins i'r pentref i helpu i chwilio amdano, cyn i gorff y plentyn gael ei ddarganfod o dan y tomen lo.