Anrhydeddu'r awdures a'r hanesydd Jan Morris
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr awdures a'r hanesydd, Jan Morris, ei hanrhydeddu mewn seremoni yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy ddydd Sul.
Cymdeithas y Cymmrodorion oedd yn rhoi'r anrhydedd "am ei chyfraniad neilltuol i lenyddiaeth ac i Gymru."
Ymhlith ei gweithiau enwocaf mae cyfres Pax Britannica am yr ymerodraeth Brydeinig, The Matter of Wales, yn ogystal â'i phortreadau o nifer o ddinasoedd, gan gynnwys Hong Kong, Efrog Newydd a Fenis.
Dathlodd Jan Morris ei phen-blwydd yn 90 oed ar 2 Hydref. Mae'n byw yn Llanystumdwy gyda'i phartner, Elizabeth.