Cynyddu dedfryd am ddynladdiad
- Cyhoeddwyd

Mae'r Llys Apêl wedi penderfynu cynyddu dedfryd dyn o Tonnau, ger Castell-nedd, wnaeth ladd ei bartner mewn ymosodiad "ffyrnig".
Yn wreiddiol roedd Rhys Hobbs, 44 oed, wedi ei garcharu am wyth mlynedd ar ôl pledio'n euog i ddynladdiad Andrea Lewis, 51, yn ei gartre ym mis Ionawr - ond nawr mae'r ddedfryd wedi ei gynyddu i ddeuddeg blynedd a chwe mis.
Cafodd yr achos ei gyfeirio at y Llys Apêl gan y Cyfreithiwr Cyffredinol.
O ganlyniad i'r ymosodiad fe gafodd penglog a rhai asennau Miss Lewis eu torri, ac roedd yna 43 o gleisiau ar ei chorff.
Dywedodd y Cyfreithiwr Cyffredinol, Robert Buckland: "Roedd gan Hobbs hanes o gam-drin treisiol a bach iawn o edifar mae o wedi ei ddangos ynglŷn â'r ymosodiad.
"Mae'n bwysig ein bod yn anfon y neges fod trais yn y cartref yn gwbl annerbyniol ac rwy'n falch fod y llys wedi penderfynu fod yn rhaid i Hobbs dreulio mwy o amser dan glo."