Deiseb boblogaidd yn gorfodi trafodaeth yn y Senedd?
- Cyhoeddwyd

Mike Hedges AC yn derbyn deiseb ar y gwasanaeth rheilffordd yng Nghymru
Mi allai deisebau poblogaidd sy'n cael eu cyflwyno i'r Cynulliad arwain at drafodaethau yn siambr y Senedd yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd mae'r mater yn cael ei drafod gan bwyllgor arbennig a phetai'n dod i rym fe fyddai'n efelychu yr hyn sy'n digwydd yn Nhy'r Cyffredin.
Yn San Steffan mae deisebau gyda dros 100,000 o enwau yn cael eu hystyried, yn ddieithriad, ar gyfer trafodaeth. Fydd na'm angen cymaint o lofnodion ar ddeisebau yng Nghymru.
Mae'r cynllun wedi cael ei groesawu gan y pedwar aelod trawsbleidiol sy'n cynrychioli'r pwyllgor.
Dywedodd Neil McEvoy AC Plaid Cymru: "Y mae'n syniad arbennig o dda. Y mae unrhyw beth sy'n sicrhau bod y llywodraeth yn wynebu canlyniadau ei phenderfyniadau i'w groesawu'n fawr."
Nid oes penderfyniad eto faint o lofnodion y bydd deisebau yng Nghymru eu hangen ar gyfer cael eu hystyried ar gyfer trafodaeth.
Yn ôl ffynonellau, mi allai'r nifer fod yn 10,000 neu cyn ised â 5,000.
Yn San Steffan, er enghraifft, mae deiseb wedi arwain at drafodaeth a ddylid gwahardd yr ymgeisydd arlywyddol, Donald Trump, rhag teithio i Brydain.
Syniad cyffrous a bywiog
Yn ôl AC UKIP Gareth Bennett, mae'r trafodaethau yn y Senedd angen "mwy o fywyd".
Dywedodd y cynrychiolydd Ceidwadol ar y pwyllgor, Janet Finch-Saunders, ei fod yn syniad "cyffrous a fydd yn bywiogi'r broses" a chadarnhaodd cadeirydd y pwyllgor Mike Hedges o'r blaid lafur ei fod e hefyd yn gefnogol.
Ar hyn o bryd mae'r pwyllgor yn ystyried deisebau ag arnynt ddeg o enwau neu fwy. Nid yw deiseb yn medru gofyn i'r Cynulliad drafod pwnc nad sydd o fewn ei gyfrifoldebau.
Pwyllgor busnes y Cynulliad, sef pwyllgor o aelodau cynulliad blaenllaw, fydd yn penderfynu a fydd y cynllun yn dod i rym.