Gwahardd tiwtor am gael perthynas â disgybl 17 oed
- Cyhoeddwyd

Clywodd y gwrandawiad fod Nia Davies wedi cael perthynas â disgybl oedd yn 17 oed ar y pryd
Mae darlithwraig wedi cael ei gwahardd rhag dysgu am ddwy flynedd wedi iddi gael perthynas rhywiol gyda myfyrwraig 17 oed o Goleg Sir Gâr.
Penderfynodd gwrandawiad disgyblu fod Nia Davies, 31 oed, yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol ar ôl cael perthynas tra'n darlithio.
Clywodd y gwrandawiad ei bod hi wedi mynd â'r ferch ifanc gyda hi ar benwythnosau i Lundain a Chaerfaddon ac wedi rhannu ystafell wely.
Daeth yr awdurdodau i wybod am y berthynas ar ôl i dad y ferch, oedd yn blismon, sylwi ar farciau ar ei gwddw.
Roedd Ms Davies hefyd wedi anfon negeseuon i'r ferch yn ei hannog i arbrofi gydag alcohol a chyffuriau.
Cafodd Ms Davies ei gwahardd rhag dysgu am ddwy flynedd gan banel y Cyngor Gweithlu Addysgu.
Dywedodd Peter Williams, cadeirydd y panel, fod yna gymhelliad rhywiol i ymddygiad Ms Davies.
Roedd y ferch wedi cyfaddef i'w rhieni iddi aros gyda Ms Davies yng Nghaerfaddon a Llundain.
Arestio
Fe wadodd wrth yr heddlu iddi gael rhyw gyda Ms Davies, ond fe gyfaddefodd iddynt gusanu a chysgu yn yr un gwely yng nghartref Ms Davies yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth yr heddlu arestio Ms Davies a'i rhyddhau ar fechnïaeth, ond ni chafodd ei chyhuddo o unrhyw drosedd.
Clywodd y gwrandawiad fod Coleg Sir Gâr wedi cynnal ymchwiliad mewnol i'r honiadau, ond fod cytundeb Ms Davies wedi dirwyn i ben a'i bod wedyn wedi gwrthod mynychu unrhyw gyfarfodydd.
Dywedodd George Pollitt, oedd y cynrychioli Ms Davies: "Mae hi'n dweud iddynt gael rhyw fath o berthynas ers 2015 pan oedd y ferch dros 18, ac ar ôl i fy nghlient orffen gweithio yn y Coleg."
Fe wnaeth y gwrandawiad benderfynu bod y ddarlithwraig wedi camymddwyn yn broffesiynol ar chwe achlysur, gan gynnwys cusanu'r ferch a chaniatàu iddi gysgu yn ei chartref.
Penderfynodd y gwrandawiad nad oedd yna dystiolaeth i ddangos fod y ddwy wedi cael cyfathrach rywiol.
Mae gan Ms Davies, darlithydd ffilm a chyfryngau, 28 diwrnod i apelio.