Ailagor galeri Glynn Vivian sydd wedi costio £6m
- Cyhoeddwyd

Mae galeri gelf yn Abertawe yn ailagor wedi gwaith adnewyddu sydd wedi costio £6m.
Fe gaeodd galeri Glynn Vivian yn 2011 ond mae oedi ar y gwaith adeiladu wedi golygu ei bod wedi agor dwy flynedd yn hwyrach na'r disgwyl.
Bydd gwaith gan Turner, Picasso a Leonardo da Vinci i'w gweld yn y galeri o ddydd Sadwrn ymlaen ac fe fydd gorymdaith yn digwydd trwy ganol Abertawe er mwyn nodi'r ffaith bod y galeri yn ailagor.
Mae yna wagle newydd ar gyfer arddangosfeydd, a chaffi a siop newydd.
Fe fydd yna hefyd arddangosfa yn enw'r sylfaenydd Richard Glynn Vivian, wnaeth deithio'r byd yn casglu celf.
Bydd ei ddyddiaduron, llyfrau brasluniau a ffotograffiaeth o'i deithiau mewn gwledydd fel China ac Awstralia hefyd yn cael eu dangos yn y galeri.
Mae disgwyl i ryw 90,000 o ymwelwyr ddod i'r galeri bob blwyddyn.

Roedd oedi ar y gwaith adeiladu am gyfnod
Dywedodd y curadur Jenni Spencer-Davies: "Mae'n galeri, mewn metaffor heb waliau.
"Fe fydd pobl yn gallu gweld cadwraethwyr yn gweithio yn eu stiwdio neu ystafelloedd storio.
"Byddwn ni yn estyn allan i ymwelwyr Abertawe ac fe fydd modd i bobl gysylltu gyda ni mewn gwahanol ffyrdd - fe allwch chi alw draw am 10 munud neu dreulio awr yn pori, neu ddod i mewn i ddysgu neu i gymryd rhan mewn gweithdy."

Glynn Vivian yn 1910
Ar gyfer yr agoriad bydd modd gweld llun Snow Storm- Steam-Boat off a Harbour's Mouth gan Turner a gwaith gan Picasso, sydd wedi eu rhoi ar fenthyg gan y Tate.
Ond yr uchafbwynt ddydd Sadwrn yw 10 llun gan Leonardo da Vinci fydd i'w gweld tan 6 Ionawr.
"Pwy sydd ddim yn caru gwaith Leonardo? Mae'n hudo pobl o bob oed," meddai Ms Spencer-Davies.
"Rydyn ni yn lwcus iawn, iawn fod y Royal Collection yn gadael i ni ddangos y lluniau yma, mae'n gynhyrfus i weld ei waith."
Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Abertawe, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru sydd wedi talu am y gwaith o adnewyddu'r galeri.