Carchar i ddyn o Wrecsam am gynllwyn dwyn aur
- Cyhoeddwyd

Mae aelod o griw o ladron oedd yn targedu'r gymuned Asiaidd wedi cael ei garcharu.
Roedd Patrick Doran, 30 oed, wedi cyfaddef ei fod yn rhan o'r cynllwyn i ddwyn aur o gartrefi Asiaidd mewn ardaloedd yn Lloegr.
Fe bledioedd yn euog hefyd i ladrad arall yn Wolverhampton.
Cafodd bedair mlynedd dan glo.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry wrth Lys y Goron yr Wyddgrug bod y cynllwyn wedi "achosi pryder i'r gymuned Asiaidd".
Roedd Doran yn byw yn Wrecsam pan gyflawnodd y troseddau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2016
