'Clic clic' y camerâu wrth i ŵyl FfotoAber gychwyn
- Cyhoeddwyd

Dyma'r chweched gwaith i FfotoAber gael ei chynnal
Mae hi'n ddiwrnod FfotoAber yn Aberystwyth ddydd Sadwrn ac wrth grwydro'r stryd yn ystod y dydd hawdd credu bod y 'paparazzi' wedi cyrraedd y dre'.
Ymhob twll a chornel mae ffotograffwyr lu yn tynnu amrywiol luniau.
Cystadleuaeth yw Ffoto Aber lle mae ffotograffwyr yn cael chwe thema yn ystod y dydd - ymysg themâu'r gorffennol mae 'melyn', 'cymdogion', 'blychau' a 'chysgod'.
Eleni mae'r ŵyl yn dathlu ei chweched pen-blwydd.

'Cysgod'
"Mae FfotoAber wedi tyfu'n ŵyl flynyddol o bwys i'r dre ac ry'n yn ddiolchgar ein bod yn llwyddo i ddenu cefnogaeth gan fusnesau a mudiadau lleol", medd Mari Siôn, un o'r trefnwyr.
"Nid oes rhaid cael camera drud - mae nifer yn defnyddio ffôn symudol, ac yn wir mae un cystadleuaeth ar gyfer ffonau", ychwanegodd.
Bydd y lluniau buddugol yn cael eu harddangos mewn siopau a chanolfannau yn y dre'.

Osian Williams - enillydd y gystadleuaeth i ysgolion uwchradd
Mae FfotoAber hefyd yn annog ffotograffwyr ifanc drwy gynnal cystadleuaeth i ysgolion. Eleni tasg y cystadleuwyr oedd tynnu tri llun ar unrhyw thema.
"Roedd hi'n dipyn o sioc ennill," medd Osian Williams, enillydd y gystadleuaeth i'r plant uwchradd. "Ond mi ges i hwyl yn tynnu'r lluniau ac rwy' wrth fy modd."
Bydd enwau enillwyr FfotoAber yn cael eu cyhoeddi ddydd Sul.